Gwybodaeth am Covid-19
Sut mae Llyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd yn gweithredu mewn ymateb i’r Coronafeirws (COVID-19).
Bydd pedwar o’n hybiau yn y ddinas yn parhau ar agor ar gyfer apwyntiadau sy’n ymwneud â materion brys yn unig ac i gynnig y gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau o Ddydd Llun 21 Rhagfyr.
- Hyb y Llyfrgell Ganolog
- The Powerhouse
- Hyb Llaneirwg
- Hyb Trelái a Chaerau
Bydd gweddill yr hybiau a’r llyfrgelloedd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.
Dim ond drwy apwyntiad y ceir mynediad i’r hybiau craidd, oni bai bod angen taleb Banc Bwyd arnoch neu os ydych yn casglu bagiau ailgylchu neu fagiau gwastraff bwyd.
I gael gwybod mwy am y gwasanaethau Cyngor a Llyfrgelloedd, ac i drefnu apwyntiad ffoniwch 029 2087 1071.
Bydd yr holl weithgareddau wyneb yn wyneb sydd wedi bod yn digwydd mewn hybiau, fel clybiau swyddi a chymorth digidol, yn dod i ben.
Bydd gwasanaethau clicio a chasglu llyfrgelloedd yn cael eu hoedi yn ystod y cyfnod atal. Gall defnyddwyr llyfrgell gael mynediad at ystod eang o eLyfrau ac Adnoddau Electronig am ddim ar-lein.
Peidiwch ag ymweld â Llyfrgell na Hyb os:
- ydych wedi cael symptomau’r Coronafeirws yn ystod y 7 diwrnod diwethaf
- yw aelod o’ch cartref wedi cael symptomau’r Coronafeirws yn ystod y 14 diwrnod diwethaf
- ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael symptomau’r Coronafeirws yn y 14 diwrnod diwethaf

