Gwasanaeth Cymorth Lles
Rydym am hybu iechyd a lles y gymuned a lleddfu rhai o effeithiau negyddol y pandemig COVID-19. Ein nod yw cynnig cyfleoedd i helpu cymaint o bobl â phosibl.
Ers dechrau’r pandemig mae mwy o bobl yn profi:
- Heriau iechyd meddwl
- Allgáu cymdeithasol ac unigrwydd
- Pryder ynghylch gadael y cartref
Mae llai o gymorth a gwasanaethau ar gael i bobl ifanc hefyd.
Pa gymorth rydym yn ei gynnig
Mae ein tîm yn cynnig:
- Mentora un i un i’ch helpu i reoli eich lles eich hun
- Gweithgareddau yn seiliedig ar eich diddordebau a’ch anghenion personol
- Digwyddiadau a hyfforddiant
- Gwirfoddoli yn y gymuned
Mae rhai gweithgareddau y gallwn eu cynnig yn cynnwys:
- Clybiau cinio a chymdeithasol
- Sesiynau digidol
- Clybiau garddio
- Grwpiau canu
- Codi sbwriel
- Ioga
- Myfyrdod
- Grwpiau coginio iach
Cofrestrwch i’r gwasanaeth
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn gallwch naill ai gael eich cyfeirio atom gan sefydliad arall, neu gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol:
E-bost: Timlles@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 1071
Gallwch ddod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

