Cyngor
Diweddariad ar y Coronafeirws – Gweld newidiadau i’n gwasanaethau.
Gallwch ddefnyddio amryw o wasanaethau’r cyngor o’r Hybiau ledled Caerdydd.
Mae ein gwasanaethau Hyb yn cynnwys:
- Cyngor Ariannol
- Gwasanaethau Cynghori i Mewn i Waith
- Dysgu Oedolion Caerdydd
- Cymorth gydag ymholiadau Tai a Budd-daliadau
- Mynediad i dalebau Banc Bwyd
- Casglu eich bagiau ailgylchu gwyrdd
- Mae ystod o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran
Mae gwasanaethau hybiau yn amrywio yn ôl lleoliad a gallant fod ar gael ar ddiwrnodau penodol o’r wythnos. Gwiriwch fod y gwasanaeth sydd ei angen arnoch ar gael cyn teithio.
Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn cynnwys mynediad am ddim i lyfrau ac adnoddau electronig.
Gweld Hybiau a Llyfrgelloedd ar Cardiff.gov
I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau cyngor a llyfrgell ffoniwch 029 2087 1071.
Gwasanaethau Cynghori i Mewn i Waith
Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i waith neu os ydych yn ceisio uwchsgilio, ewch i’n gwefan Gwasanaethau Cynghori i Mewn i Waith..
Neu gallwch ffonio 029 2087 1071. Dewiswch opsiwn 1.
Cyngor Ariannol
Os oes angen help arnoch gyda budd-daliadau, grantiau a dyled, ewch i’n gwefan Cyngor Ariannol i gael rhagor o help a gwybodaeth.
Dysgu Oedolion Caerdydd
Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer cwrs ewch i’n gwefan Dysgu Oedolion Caerdydd i weld ystod eang o gyfleoedd dysgu neu hamdden.